Tyred hyfryd foreu tawel, Tyred hafaidd ddedwydd ddydd, Pan ga'r dorau pres eu hagor, Pan y delo'r caeth yn rhydd; Rho arwyddion, &c., I fod hyny yn nesâu. Trwy y niwl a'r tywyll gwmwl, Gwelaf draw yr hyfryd wlad, Nes yw'm ffydd yn llefain allan, Dacw ddedwydd dŷ fy Nhad: Dyma ddigon, &c., I mi lwyr anghofio'm gwae. Yn y wlad 'r wy'n myned iddi, Mi gaf ddianc ar fy mhoen, - Gorphwys byth tu draw i ofid, Yn nghymdeithas Duw a'r Oen; Ni ddaw tristwch, &c., Byth i mewn tros fryniau'r nef. Ni bydd yno gofio beiau, Dim ond llawn faddeuant rhad; Cofio'r groes, a grym y cariad, A chlodfori am y gwaed: Darfu ofni, &c., Daeth llawenydd yn ei le.William Williams 1717-91 Tôn [878747]: Dix (Coral Ellmynig) gwelir: Daethum trwy afonydd dyfnion Dechrau canu dechrau canmol (F')enaid egwan paid ag ofni ('Dyw d'elynion ...) Mae fy enaid am/yn ehedeg Nid oes yno gofio beiau Rhwng cymylau duon tywyll Trwy y niwl a'r tew gymylau Wele'n dyfod ar y cwmwl (Mawr yw'r enw ...) |
Let a delightful quiet morning come, Let a summery happy day come, When the doors of brass get opened, When the captives come free; Give signs, &c., That this is drawing near. Through the fog and the dark cloud, I see yonder the delightful land, Until my faith cries out Yonder is the happy house of my Father: This is enough, &c., For me completely to forget my woe. In the land I to which I am going, I shall get to escape from my pain, - To rest forever beyond grief, In the fellowship of God and the Lamb; Sadness shall not come, &c., Ever within over the hills of heaven. No remembering of faults shall be there, Only full free forgiveness; Remembering the cross, and the power of the love, And extolling for the blood: Fearing perished, &c., Joy came in its place.tr. 2021 Richard B Gillion |
|